Ysgrifennwyd y llythyr hwn gan fy nhad, y Capten George Carmichael, at fy mam, Beryl Sutton, cyn iddyn nhw briodi.
Gwasanaethodd fy nhad gyda'r Green Howards, a chyfarfu â fy mam, a oedd yn yr ATS, pan oedd wedi'i leoli yn Somerset cyn cael ei anfon i ymladd. Yn y llythyr hwn, mae'n sôn am ei dristwch mawr ar golli dau ddyn a foddwyd wrth nofio. Roeddent yn yr anialwch ger Gazala, ac wedi mynd i nofio yn y môr, oherwydd eu bod yn byw mewn llochesi, ac nid oedd ganddynt ddŵr i olchi ag ef. Dymunai fy nhad y gallai fod wedi bod gyda nhw oherwydd ei fod yn nofiwr cryf, a gallai fod wedi'u hachub. Ar ôl y ddamwain hon, ni chaniatawyd i'r dynion nofio yn y môr mwyach.
Rhoddodd fy mam nifer o'r llythyrau hyn i mi ychydig flynyddoedd yn ôl. Dewisais yr un hon, oherwydd ei bod yn dangos nad yn unig y bu farw dynion yn yr holl ymladd, ond hefyd mewn damweiniau trasig.
Roedd fy nhad yn Dunkirk, ac ymladdodd drwy gydol y rhyfel hyd at D-Day a thu hwnt. Mae'r llun ohono yng Nghyprus.