Colin Bruce Campbell at ei rieni

Roedd y llythyr mewn blwch o bapurau oedd yn fflat fy mam pan fu farw ym mis Rhagfyr 2023. Roeddwn i wedi gwybod amdano ac wedi darllen trawsgrifiad ohono, ond dyma'r tro cyntaf i mi weld y 'llythyr awyr' go iawn.

Ysgrifennwyd y llythyr at ei rieni ar ôl iddo gael ei ryddhau o wersyll carcharorion rhyfel Changi lle cafodd ei ddal am dair blynedd a hanner ac mae wedi'i ddyddio 6 Medi 1945. Mae'n braslunio: ei ddewis yn swyddog yn 2il Reifflau Gurkha (Byddin India) i atgyfnerthu ei fataliwn ym Mrwydr Malaya; ildio Singapore ar 15 Chwefror 1942; ei gyfnod cyntaf yn Changi; ei daith 'i fyny'r wlad' yng Ngwlad Thai i weithio ar 'Reilffordd Angau', ac yn cyffwrdd â'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Yn ôl i'r rhestr