"Mae ein criw wedi cael ei ddewis i wneud ffilm… Wrth gwrs mae’r steil arferol ynghlwm wrthi. Bydd y golygfeydd yn cael eu "saethu" ar ôl "op" go iawn, ond rydyn ni i fod i ddod i mewn yn edrych mor ffres â llygad y dydd, wedi'n heillio'n lân heb wallt allan o'i le a chrych yn ein trowsus."