Wesley Jones i'w fam Hannah

Cian ydw i, ac rwy'n 12 oed. Roedd fy hen daid yn garcharor rhyfel am bum mlynedd yng ngwersyll Stalag VIIIB, Gwlad Pwyl. Mae gan fy mam-gu lythyrau a ysgrifennodd at ei fam tra roedd yn gaeth.

Y llynedd, ymwelodd wyth ohonom yn ein teulu â safle gwersyll Stalag VIIIB. Roedd yn ddiwrnod diddorol iawn. Byddwn i wedi hoffi siarad â fy hen daid am y rhyfel a bod yn garcharor, ond bu farw cyn i mi gael fy ngeni.

Dyma lythyr anfonodd fy hen daid at ei fam i ddweud ei fod wedi cael ei gipio, ond ei fod yn iach. Rhaid ei bod wedi bod yn anodd iawn i'w fam heb wybod a oedd ei mab yn fyw neu'n farw, a rhaid ei bod hi wedi bod yn hapus iawn i gael y llythyr hwn ganddo.

 

Jones - letter 1

Jones letter 2

March details - Jones


Elliw ydw i, ac rwy'n 12 oed. Roedd fy hen daid yn garcharor rhyfel am 5 mlynedd yng ngwersyll Stalag VIIIB, Gwlad Pwyl. Mae gan fy mam-gu lythyrau a ysgrifennodd at ei fam tra roedd yn gaeth.

Y llynedd, ymwelodd 8 ohonom yn ein teulu â safle gwersyll Stalag VIIIB. Roedd yn ddiwrnod diddorol iawn. Fyddwn i ddim wedi hoffi cysgu yn un o'r cytiau hynny hyd yn oed am un noson heb sôn am 5 mlynedd! Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gweld y llythyrau hyn yn ddiddorol. Byddwn i wedi hoffi siarad â fy hen daid am y rhyfel a bod yn garcharor, ond bu farw cyn i mi gael fy ngeni.

Dyma delegram a anfonodd fy hen daid at ei fam i ddweud ei fod yn ddyn rhydd ar ôl bron i 5 mlynedd.

Yn ôl i'r rhestr