Mae'r darn ynghlwm yn ddyfyniad o ddyddiadur fy nhad a ysgrifennwyd ar ddiwrnod VE.
Priododd fy rhieni (Joseph Henry Franks ac Eileen Ethel Franks) ym mis Mawrth 1940 ac anfonwyd fy nhad dramor – Gogledd Affrica, y Dwyrain Canol – ym mis Medi 1940 ac ni welsant ei gilydd am ychydig dros bedair blynedd.
Ysgrifennwyd hwn ar 8 Mai 1945 ar ddiwrnod eu haduniad cyntaf, ac fel teulu rydym yn teimlo bod hyn yn dangos sut mae teimladau ac emosiynau dynol yn gorchfygu erchyllterau rhyfel. Hefyd mae'n dangos y llawenydd yn y gweithgareddau cyffredin, bob dydd a oedd ar goll.