Stephen Lewis Evans at ei wraig Sal

Ganwyd fy nhaid ym 1885. Ymunodd â'r Llynges Fasnachol ar ôl gadael yr ysgol a gwasanaethodd drwy gydol y rhyfel byd cyntaf ac roedd yn rhan o Rhyfel Cartref Sbaen cyn ymddeol fel Prif Is-gapten yn y 1930au.

Ail-ymunodd â'r fyddin ym 1940/1941 yn ei 50au gan ei fod wedi diflasu'n llwyr yn ei bentref bach yng Ngorllewin Cymru a chafodd ei roi i reoli'r SS Corheath. Dw i'n credu mai ei genhadaeth gyntaf oedd 23 Ionawr 1941 o Portsmouth i Blyth? a chafodd y llong ei tharo gan ffrwydryn "cyfeillgar" wrth iddi angori oddi ar Aber Afon Tafwys a laddodd fy nhaid a dau arall.

Mae gen i'r llythyr a ysgrifennwyd at fy mam-gu gan fy nhaid ar 22 Ionawr 1941 cyn iddo hwylio o Portsmouth ar y diwrnod tyngedfennol. Mae gen i adroddiad ymchwilio'r Morlys gan y Prif Swyddog ar 31 Ionawr 1941.

Mae'r llythyr yn eithaf doniol mewn mannau a hefyd efallai ei fod wedi cael rhagfynegiad drwg am y daith.

Yn ôl i'r rhestr