Gladys a Len Lally

Mae gen i fil o lythyrau a dyddiadur a ysgrifennwyd gan fy rhieni, Gladys a Len Lally, o 1939 i 1945. O'r rhain, a chyda llawer o ymchwil yn archifau catrodol ac ati, rydw i wedi ysgrifennu stori am eu rhyfel.

Mae'r rhan fwyaf o fywgraffiadau'n rhai o'r enwogion ond yr hyn sy'n ddiddorol yma yw bod fy nhad yn filwr cyffredin a fy mam gartref yn y blitz. Disgrifir eu bywydau'n fanwl iawn, ofnau, problemau, digwyddiadau dyddiol, dadleuon drwy'r post - pethau nad ydynt yn cael eu cofnodi'n aml.

Roedd fy nhad yn y Royal Signals ac ysgrifennodd adref o Ffrainc yn gynnar yn 1940 ac am ei ddihangfa ofnadwy o Boulogne cyn Dunkirk. Dychwelodd i Ffrainc ar D Day +2, bu'n dyst i ildiad yr Almaenwyr yn Luneburg Heath ac roedd gyda'r milwyr Prydeinig cyntaf i ddod i Berlin ar gyfer Cynhadledd Potsdam. Ysgrifenwyd am hyn i gyd bron yn ddyddiol.

Yn ôl i'r rhestr