Rhingyll Hedfan Norman Woodford Davies at ei chwaer Patricia
Anfonwyd gan: Norman Woodford Davies
Anfonwyd at: Patricia Davies
Wedi'i anfon o: Stallag Luft III, ger Sagan, yr Almaen
Dyddiad y llythyr: 7 Gorffennaf 1944
Nid llythyr yw hwn ond cerdyn post a anfonwyd gan fy Ewythr Norman diweddar at fy mam ddiweddar Patricia o Stallag Luft III lle cafodd ei garcharu ar ôl cael ei saethu i lawr uwchben yr Iseldiroedd. Roedd Mam yn byw yn Cottingham, Dwyrain Swydd Efrog. Rwyf wedi gwybod am y cerdyn hwn ers blynyddoedd lawer ond mae bellach yn eiddo i mi ers marwolaeth fy mam. Mae'r llun ychwanegol yn dangos Norman yn sefyll i gefn chwith yr Asgell-Gadlywydd Stanford Tuck yng ngwersyll y Carcharorion Rhyfel.