Anfonwyd gan: Dr Robert Wise Holden Tincker (Llawfeddyg-Comander Tincker, Llynges Frenhinol)
Anfonwyd at: Kathleen Tincker
Wedi'i anfon o: Yokohama, Japan
Dyddiad y llythyr: 18 Medi 1945
Roedd Dr Tincker (fy nhaid) yn garcharor rhyfel yn Japan. Yn ystod ei amser yno, bu'n rhedeg Ysbyty Rhyngwladol y Groes Goch yn Morioka.
Ysgrifennodd ychydig o lythyrau yn ystod ei gyfnod fel carcharor rhyfel (y rhan fwyaf ohonynt yn wyliadwrus iawn ac yn swyddogol).
Ar 18 Medi 1945 mae'n ysgrifennu ei lythyr cyntaf heb ei sensro adref ers bod yn garcharor rhyfel at ei wraig Kathleen (fy nain) a'i bedair merch. Mae’r Llawfeddyg-Comander Tincker a’i gydweithwyr ar fwrdd Llong Ysbyty EM “Vasua” yn Yokohama ac yn mynd adref.
Mae’n sôn am ei gyfnod fel carcharor rhyfel, ac am frawdgarwch, salwch, chwain a “bolau melyn”. Roedd pawb yn denau iawn ond mewn hwyliau da, ar y cyfan, ac yn meddwl tybed sut a phryd y byddant yn cyrraedd adref o'r diwedd.
Mae hefyd yn sôn am y gwahanol wersylloedd yr oedd ynddo ac am y dyddiadur yr oedd yn ei wnio yn ei gês.
Mae'r llythyr arbennig hwn yn deimladwy iawn - dyn rhydd, mae'r rhyddhad yn amlwg yn ei eiriau.
Dychwelodd Dr Tincker i Painswick yn Swydd Gaerloyw lle bu'n feddyg teulu'r pentref nes iddo ymddeol ym 1970. Bu farw ym 1981.