John Gardiner at ei wraig Sylvia

Cadwodd fy Mam y llythyr i mi gan ei bod hi'n gwybod y byddai o ddiddordeb i mi a'r teulu.

Ym 1943 ysgrifennodd fy Nhad at ei gariad (fy mam) pan oedd yng Nghanada a gweld cyfarfod Churchill â Roosevelt. Mae'r llythyr hwn yn golygu llawer i mi a fy nheulu.

Priodon nhw ar 16 Mai 1945 pan oedd fy Nhad i fod adref ar wyliau. Dychmygwch eu llawenydd y diwrnod hwnnw ar ôl clywed bod y Rhyfel yn Ewrop wedi gorffen ar 8 Mai 1945 – wythnos cyn eu Diwrnod Priodas.

Fodd bynnag, roedd rhaid i Dad gael hyfforddiant pellach cyn cael ei anfon i'r Dwyrain Pell a dyna lle'r oedd pan ysgrifennodd y llythyr hwn at fy Mam ar Ddiwrnod VJ. Roedd eu llawenydd ar y pryd yn llwyr gan wybod na fyddai angen iddo fynd i'r Dwyrain Pell ac y gallent fod gyda'i gilydd am weddill eu hoes – a dyna ddigwyddodd.

Ynghyd â'r llythyrau (tudalennau 1 a 2) rwyf wedi atodi llun o fy Mam yn 19 oed pan oedd hi yn y Fyddin Dir a llun o fy Nhad gyda'i Fam cyn iddo adael am ei daith i Ganada ym 1943.
Gardiner letter 2 Gardiner letter 2
Sylvia Gardiner - land girlSylvia and John Gardiner

Gardiner p1

Yn ôl i'r rhestr