Uwchgapten JS Holland at ei wraig Kathleen

Daeth fy nhad o hyd i flwch o bethau a gedwid gan fy nhaid, yr Uwchgapten JS Holland, yn ystod y rhyfel, gan gynnwys amryw o bethau fel ei gwmpawd a'i fapiau.

Mae'r llythyr yn y llun gan fy nhaid at fy mam-gu ar ôl iddo fynd ar goll mewn brwydr ac ar ôl bod yn garcharor rhyfel (mae gennym ni lythyr o hyd a dderbyniodd fy mam-gu i ddweud ei fod ar goll mewn brwydr). Roedd fy mam-gu yn byw yng Nglasgow. Yn ystod y cyfnod hwn pan nad oedd fy mam-gu yn gwybod a oedd fy nhaid yn iawn, cafodd ei mam freuddwyd lle gwelodd fy nhaid yn cerdded ar draws afon a dweud ei fod yn iawn ond ei fod yn rhwystredig.

Pan ddychwelodd adref dywedodd fod hyn yn wir – roedd wedi teimlo’n rhwystredig yn wir gan eu bod wedi cael addewid y byddai tanciau’n cyrraedd fel atgyfnerthiadau, ond ni ddaethant erioed – a dyna pam y cawsant eu dal.

Holland p1

Holland p2

Holland p3

Holland p4

Holland p5

 

Yn ôl i'r rhestr