John Lucas Matthews i Audrey Joyce Matthews (Hales gynt)
Anfonwyd gan: John Lucas Matthews Signalman 2585994
Anfonwyd at: Audrey Joyce Matthews (née Hales)
Wedi'i anfon o: Cairo
Mae'r llun yma gen i yn fy albwm teuluol.
Fe'i hanfonwyd o Cairo mewn bwndel bach gydag eraill. Mae'r llun yn dangos fy Nhad John Lucas Matthews Signalman 2585994 (yn eistedd) gyda'i ffrindiau yn y fyddin (nid wyf yn eu hadnabod) yn Cairo. Mae'r nodyn byr wedi'i ysgrifennu ar y cefn.
Goroesodd fy Nhad, a chafodd ei ryddhau o’r fyddin ym 1946. Dioddefodd “syfrdandod gragen” fel y’i gelwid bryd hynny, am ugain mlynedd.