Maurice Morgan at ei fam Nelli Morgan

Roedd fy Nhaid yn cadw llawer o lythyrau am ei amser yn y rhyfel, yn saff mewn bocs i ddangos i ni wyrion ac wyresau pan oedden ni’n ddigon hen i ddeall beth aeth drwyddo.

Roedd Taid (Mr Maurice Morgan) yn garcharor rhyfel yn Burma. Dyma rai o'i lythyrau adref at ei fam Nellie Morgan.

Cafodd ei garcharu ar 15 Chwefror 1942 yn Singapore. Cafodd ei ryddhau ym 1945.

Treuliodd dair blynedd yn gweithio ar reilffordd marwolaeth Byrma / Siam yn byw ar ychydig iawn o fwyd, ac yn cael ei guro dro ar ôl tro.

Bu'n rhaid iddo gerdded 10 milltir rai dyddiau yn union i'r man lle'r oeddent yn gweithio'r diwrnod hwnnw, yna gwneud diwrnod llawn o lafur caled yn torri coed i lawr yn lleithder uchel y goedwig, yna cerdded 10 milltir yn ôl i'r gwersyll.

Dim ond llond llaw o reis oedd ganddo i'w fwyta.

Morgan

Morgan

Welcome home - MOrgan

Morgan - HRH message

Yn ôl i'r rhestr